SL(6)497 – Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2024

Cefndir a diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 5 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (“y Ddeddf TTT”).  Mae Atodlen 5 yn cynnwys rheolau sy'n dynodi pryd y mae trafodiadau eiddo penodol yn ddarostyngedig i gyfraddau preswyl uwch o’r Dreth Trafodiadau Tir (“TTT”).

Bydd y Rheoliadau hyn yn estyn y cyfnodau 3 blynedd sy’n gymwys ar gyfer yr eithriad “disodli prif breswylfa” rhag cyfraddau preswyl uwch o’r TTT, yn ddarostyngedig i amodau penodol:

1.     ar ôl prynu annedd i gymryd lle prif breswylfa, bod y cam o werthu’r cyn brif breswylfa wedi’i ohirio oherwydd presenoldeb diffygion diogelwch tân, neu 

 

2.     bod gwerthu neu brynu prif breswylfa yn y dyfodol yn cael ei ohirio oherwydd bodolaeth cyfyngiadau brys.

Gweithdrefn

Cadarnhaol.

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae paragraff 35 o Atodlen 5 i’r Ddeddf TTT yn cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â phan fo gan brynwr brif fuddiant mewn annedd y tu allan i Gymru. Mae is-baragraff (4) yn nodi rhestr o ddarpariaethau yn yr Atodlen sy’n cynnwys cyfeiriadau at “anheddau”, sydd i’w dehongli i fod yn cynnwys anheddau y tu allan i Gymru yn unol ag is-baragraff (1).

Mae rheoliad 6(4) o'r Rheoliadau hyn yn diwygio is-baragraff (4) i gynnwys cyfeiriadau at ddarpariaethau a fewnosodir yn Atodlen 5 gan y Rheoliadau hyn. Mae'r mewnosodiadau yn cynnwys cyfeiriadau at baragraffau 8(4C)(b) a 17(4C)(b). Fodd bynnag, nid yw’n gwbl glir pam y mae angen cynnwys y cyfeiriadau penodol hynny yn is-baragraff (4), o ystyried bod y darpariaethau cysylltiedig ond yn cyfeirio at fodolaeth dyletswyddau ar bersonau penodol i unioni diffygion diogelwch tân.

Gofynnir felly i'r Llywodraeth egluro'r rheswm dros ychwanegu'r cyfeiriadau uchod at baragraff 35(4).

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

2.    Rheol Sefydlog 21.3(i) - ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r llywodraeth neu awdurdod lleol neu gyhoeddus er mwyn cydnabod unrhyw drwydded, cydsyniad neu unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm unrhyw dâl neu daliad o’r fath.

Mae adran 25 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 yn nodi bod yn rhaid i Awdurdod Cyllid Cymru dalu symiau a gesglir wrth arfer ei swyddogaethau i Gronfa Gyfunol Cymru.

Yn unol ag adran 2(3) o’r Ddeddf TTT, Awdurdod Cyllid Cymru sy’n gyfrifol am gasglu a rheoli TTT. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio eithriad “disodli prif breswylfa” rhag atebolrwydd ar gyfer cyfraddau preswyl uwch y dreth honno.

3.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion yn y Rheoliadau hyn rhwng 19 Rhagfyr 2023 a 17 Mawrth 2024.

Gan gyfeirio at ganlyniad yr ymgynghoriad hwnnw, mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi’r canlynol:

“….Ar y cyfan, roedd yr ymatebion yn gefnogol, neu'n gefnogol iawn, i gynigion Llywodraeth Cymru.

Yr hyn a esgorodd ar yr anghytuno mwyaf yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad oedd dull arfaethedig Llywodraeth Cymru o ymdrin â thrafodiadau yr effeithiwyd arnynt gan gyfyngiadau Covid-19. Bydd y rheolau newydd arfaethedig yn caniatáu estyniadau i gyfnodau ad-dalu ac eithrio pan fo trafodiadau yn cael eu hoedi gan gyfyngiadau brys yn y dyfodol.  Fodd bynnag, ni fydd y rheolau newydd yn gwneud darpariaeth ar gyfer trafodiadau yr effeithiwyd arnynt gan gyfyngiadau brys yn y gorffennol, fel cyfyngiadau Covid-19….

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn mai’r dull a amlinellir yn y ddogfen ymgynghori…yw’r ymateb mwyaf cymesur.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru i’r pwynt adrodd technegol.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

25 Mehefin 2024